Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

 

4 Tachwedd 2016

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet

Adolygiad Diamond

Yn dilyn cyhoeddi'r Adolygiad annibynnol o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr (Adolygiad Diamond) roedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn awyddus i archwilio sut y bydd y gwaith hwn yn effeithio ar feysydd yn ein cylch gwaith.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 12 Hydref manteisiais i a Hefin David ar y cyfle i holi'r Athro Syr Ian Diamond am ei adroddiad a sut y mae'n berthnasol i gylch gwaith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Y diwrnod canlynol cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith, a Sgiliau sesiwn rhanddeiliaid i gasglu ymatebion. Roeddem yn ddiolchgar bod uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi dod i'r digwyddiad hwn er mwyn clywed ymatebion yn uniongyrchol ac adrodd yn ôl i chi.

Clywodd y rhanddeiliaid drafodaethau ar yr effaith debygol ar economi Cymru, ymchwil ôl-raddedig ac ar ddatblygu sgiliau lefel uwch. I gloi gwnaethom ofyn hefyd am sylwadau cyffredinol. Mae'r llythyr hwn yn nodi ein casgliadau a'n hargymhellion sy'n deillio o'r cyfarfod hwnnw.

Casgliadau

Mae argymhellion Diamond wedi cael eu croesawu gan groestoriad eang o randdeiliaid. Mae brwdfrydedd penodol o ran y syniad y bydd pob myfyriwr - nid yn unig yr israddedigion hynny sy'n 18 oed neu'n hŷn mewn addysg amser llawn - yn gymwys i gael cymorth ar sail angen. Mae'r syniad y gallai Cymru arwain y ffordd yn y dull hwn wedi bod yn boblogaidd iawn.

Mae'n arbennig o boblogaidd o ran gwella sgiliau'r gweithlu presennol, gyda llawer ohonynt yn ystyried cymorth ar gyfer astudio'n rhan-amser ochr yn ochr â'u gwaith yn arbennig o apelgar.

Er bod argymhellion Diamond yn cael eu gweld fel ateb i gylch gwaith penodol a roddwyd i'r grŵp adolygu, mae cydnabyddiaeth eang bod angen ystyried materion eraill ym maes addysg uwch - er enghraifft recriwtio a chadw staff  - a bod angen cymryd camau yn hyn o beth.

Rydym yn ymwybodol, yn dilyn eu cyfarfod â'r Athro Diamond, fod y Pwyllgor Plant,  Pobl Ifanc ac Addysg wedi argymell bod argymhellion Diamond yn cael eu rhoi ar waith yn llawn, ac yn cael eu hariannu'n llawn drwy gydol y Cynulliad hwn.

Argymhellion

Rydym yn argymell y canlynol:

·         bod y camau gweithredu yn cael eu hintegreiddio â'r gwaith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod ein system addysg yn galluogi unigolion i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen ar economi Cymru, a'r gwaith ar Strategaeth Economaidd newydd;

·         bydd angen gwneud rhagor o waith i fynd i'r afael â diwygiadau mewn addysg uwch sydd y tu hwnt i gwmpas Adolygiad Diamond;

o   gall hyn gynnwys mesurau i wrthbwyso effaith Brexit ar recriwtio myfyrwyr a staff addysgu o dramor;

o   ond gall hefyd ystyried mesurau i fynd i'r afael a'r effaith sylweddol ar lwyth gwaith darlithwyr, yn enwedig o ystyried nifer y myfyrwyr rhyngwladol, sydd eisoes yn uchel, yn enwedig ôl-raddedigion.

·         bod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn adolygu maint y cymorth a geir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau arloesi a bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystyried pa mor effeithiol y mae'r sgiliau entrepreneuraidd yn cael eu meithrin ym maes addysg uwch. Clywodd aelodau'r Pwyllgor y gall symiau bach o gymorth ariannol ar gyfer prosiectau arloesi arwain at fanteision sylweddol;

·         bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perthynas fwy "deinamig" rhwng addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys adolygu a gwerthuso gwahanol fodelau o gydweithredu a phartneriaeth rhwng addysg bellach ac addysg uwch, sy'n ategu yn hytrach na dyblygu; Manteision posibl hyn yw'r canlynol:

Ø  annog datblygiad myfyrwyr unigol;

Ø  cynyddu nifer y dysgwyr sy'n ennill sgiliau lefel uwch;

Ø  hyrwyddo llwybrau mwy hyblyg rhwng addysg/dysgu (amser llawn a rhan-amser); anweithgarwch economaidd; a chyflogaeth (amser llawn a rhan-amser); a

Ø  helpu i adfywio cymunedau sydd â lefelau uchel o anweithgarwch economaidd ac amddifadedd.

·         bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r ffyrdd y mae busnesau bach a chanolig yn ymgysylltu â'r sector addysg uwch a'r ffyrdd y gellir gwneud hyn yn fwy effeithiol. Yn aml, nid oes gan fusnesau bach a chanolig yr amser, yr adnoddau na'r ddealltwriaeth o sut i ymgysylltu â'r sector addysg uwch yn effeithiol;

·         bod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso effaith argymhellion Adolygiad Diamond. Rydym yn credu y dylai hyn ddigwydd tair blynedd ar ôl gweithredu'r newidiadau.

Deallaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hymateb i argymhellion Diamond yn yr wythnosau nesaf, a hyderaf y bydd ystyriaeth y Pwyllgor o'r materion a'r argymhellion yn ddefnyddiol i chi.

 

Cofion gorau,

Russell George AC

Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

 

Copi at: Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (gan gynnwys Addysg Bellach)

Copi at:  Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Copi at: Lynne Neagle AC, Cadeirydd, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg